Mae'n bleser gan Substance gyhoeddi lansiad ein Ap Symudol Dyddiadur Pysgota Môr newydd!
Cymerwch ran yn y prosiect a chewch ddefnydd rhad ac am ddim o'r ap symudol pwrpasol hwn.
Gyda'r Ap Symudol Dyddiadur Pysgota Môr gallwch chi:
sesiynau a lleoliadau pysgota a'u gweld ar fap
- Cofnodwch eich dalfeydd
- Gwybodaeth mewnbwn a mynediad hyd yn oed pan allan yn pysgota
Mae'r App YN UNIG AR GAEL os ydych chi'n cofrestru ar gyfer y prosiect Dyddiadur Pysgota Môr. Gwnewch hynny yma.
Sicrhewch yr App yma:
Lotri wobr pan fyddwch yn COFRESTRU, ar gyfer 2 x £50 o dalebau offer pysgota a 2 x £50 o Dalebau Amazon.
Lotri wobr BOB Mis am £50 a £25 o dalebau Fishing Megastore a £25 o dalebau Amazon pan fyddwch yn cofnodi gwybodaeth.
Mae Amodau a Thelerau’n gymwys (*gwobrau ar gyfer 2018 i’w cyhoeddi)
TP_BLURB
Lawrlwythwch Gwestiynau Cyffredin am Bysgota Môr â Gwialen 2017
Pwy sy’n Cynnal y Prosiect Dyddiadur Pysgota Môr â Gwialen?
Comisiynir yr ymchwil gan Ganolfan yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Gwyddor Acwafeithrin (Cefas) ar ran llywodraethau`r DU ac fe`i gwneir gan Substance sydd eisoes wedi ymgymryd â thoreth o ymchwil er mwyn cefnogi datblygu pysgota â gwialen yn y DU yn ystod y degawd diwethaf. Am fwy o wybodaeth ynghylch rhywfaint o waith blaenorol Substance ar bysgota â gwialen, gweler ein Safle Ymchwil Pysgota â Gwialen..
Pam Cynhelir y Prosiect Dyddiadur Pysgota Môr â Gwialen?
Bydd canlyniadau`r astudiaeth dyddiadur yn helpu`r DU i gwrdd â`i rhwymedigaethau i adrodd am ddalfeydd hamdden o rywogaethau penodol fel y nodir gan Fframwaith Casglu Data`r UE a Rheoliad 1224/2009 Cyngor yr UE. Sefydlwyd y Fframwaith Casglu Data yn 2002 i annog Aelod Wladwriaethau`r UE i gasglu digon o ddata i ganiatáu i gyflwr stociau pysgod Ewropeaidd gael eu monitro mewn dull mor gywir â phosibl gan y Cyngor Rhyngwladol ar Archwilio`r Moroedd a chan Bwyllgor Gwyddonol, Technegol ac Economaidd yr UE ar Bysgodfeydd. Mae`n gofyn am gasglu data pysgodfeydd hamdden o bob math o bysgota nad yw`n fasnachol o`r lan ac o gychod.
Ar gyfer beth y defnyddir y data?
Rhoddir y data a gesglir i`r rhai sy`n llunio polisi lleol a chenedlaethol er mwyn iddynt ddod i benderfyniadau mwy deallus ynghylch rheoli pysgodfeydd, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar gyfer y gymuned pysgota môr â gwialen i`w helpu i ddatblygu eu barnau a`u polis�au eu hunain. Mae bod yn berchen ar ddata sydd mor gywir â phosibl am beth a ddelir, a ryddheir ac a warir gan bysgotwyr môr â gwialen yn y DU o gymorth i alluogi`r gymuned pysgota môr â gwialen i ddangos ei effaith wirioneddol yn fwy effeithiol.
Bydd data o Bysgota Môr â Gwialen 2017 yn caniatáu i lywodraethau`r DU fod â darlun mor gywir â phosibl o bysgota môr â gwialen yn y DU beth sy`n cael ei ddal a faint sy`n cael ei wario.
Beth oedd Pysgota Môr â Gwialen 2012 a Physgota Môr â Gwialen 2016?
Mae Pysgota Môr â Gwialen 2016 yn brosiect cyfredol lle mae 500 o bysgotwyr môr â gwialen yn cwblhau dyddiadur ar-lein am eu teithiau a`u dalfeydd pysgota môr â gwialen eleni. Mae dyddiadurwyr hefyd yn darparu manylion am beth maent yn ei wario ar deithiau pysgota môr â gwialen a phryniadau pysgota â gwialen er mwyn dangos gwerth economaidd y gweithgaredd.
Roedd Pysgota Môr â Gwialen 2012 wyn brosiect ymchwil amlochrog y bu dros 11,000 o enweirwyr yn Lloegr yn gyfrannog ynddi er mwyn darparu gwybodaeth am beth wnaethant ei ddal a faint wariwyd ganddynt. Amcangyfrifodd :
Gallwch gyrchu mwy o wybodaeth am Bysgota Môr â Gwialen 2012 trwy lawrlwytho`r Adroddiad Terfynol yma..
Contact Substance: seaanglingdiary@substance.net